Cartref - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gweddarllediadau
Dim confodion
Croeso
Beth yw gwe-ddarllediad?
Mae gwe-ddarllediad yn recordiad clywedol a fideo heb ei olygu o gyfarfod y cyngor a wnaed ar gael i’w weld ar ein gwefan. Dechreuom ni we-ddarlledu cyfarfodydd llawn y Cyngor ym mis Mawrth 2015.
Gwylio cyfarfod cyngor
Mae Gwe-ddarllediadau ar gael i’w gwylio yn rhad ac am ddim. Gallwch eu gweld yn fyw yn ystod y cyfarfod, neu dal i fyny ar gyfarfodydd y gorffennol trwy archif llyfrgell we-ddarllediadau.
Mae cyfarfodydd diweddar ac i ddod yn cael eu harddangos ar ochr dde’r dudalen hon - cliciwch ar y cyfarfod penodol a bydd y gwe-ddarllediad yn dechrau’n awtomatig. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i agendâu ac adroddiadau’r cyngor ar gyfer pob cyfarfod o dan y ddolen Adnoddau, a fydd yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y materion sy’n cael eu trafod.
Archif
Mae gwe-ddarllediadau fel arfer yn cael eu harchifo yn syth yn dilyn y cyfarfod ac ar gael ar y wefan am 18 mis o ddyddiad y cyfarfod.
Rhannu a Chyfryngau Cymdeithasol
Cliciwch y botwm Rhannu o dan y chwaraeydd gwe-ddarllediad i rannu dolen drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu e-bost. Anogir gwylwyr hefyd i ddilyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter) ar gyfer y newyddion diweddaraf a nodyn atgoffa o bryd bydd cyfarfodydd yn cael eu gwe-ddarlledu.
Tudalennau Cymorth
Os ydych yn cael problemau yn gweld y gwe-ddarllediad, gallwch gael mynediad at y tudalennau cymorth i ddod o hyd i fwy am we-ddarlledu, sut mae’n gweithio, a pha offer bydd angen arnoch i weld y gwe-ddarllediad. Os ydych yn dal i gael problemau, gallwch wneud sylwad gan ddefnyddio’r ddolen Adborth a leolir uwchben y sgrin gwylio gwe-ddarllediad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Democrataidd
Ebost: pwyllgor@caerffili.gov.uk
Tanysgrifio
Tanysgrifiwch i gael gwybod drwy e-bost am weddarllediadau i ddod sydd o bwys i chi