Cartref - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gweddarllediadau

Gorolwg o'r Gwe-Ddarlledu 

Croeso 

Croeso i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Beth yw gwe-ddarllediad?

Mae gwe-ddarllediad yn recordiad clywedol a fideo heb ei olygu o gyfarfod y cyngor a wnaed ar gael i’w weld ar ein gwefan.  Dechreuom ni we-ddarlledu cyfarfodydd llawn y Cyngor ym mis Mawrth 2015.

 

Gwylio cyfarfod cyngor

Mae Gwe-ddarllediadau ar gael i’w gwylio yn rhad ac am ddim. Gallwch eu gweld yn fyw yn ystod y cyfarfod, neu dal i fyny ar gyfarfodydd y gorffennol trwy archif llyfrgell we-ddarllediadau.

Mae cyfarfodydd diweddar ac i ddod yn cael eu harddangos ar ochr dde’r dudalen hon - cliciwch ar y cyfarfod penodol a bydd y gwe-ddarllediad yn dechrau’n awtomatig. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i agendâu ac adroddiadau’r cyngor ar gyfer pob cyfarfod o dan y ddolen Adnoddau, a fydd yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y materion sy’n cael eu trafod.

 

Archif

Mae gwe-ddarllediadau fel arfer yn cael eu harchifo yn syth yn dilyn y cyfarfod ac ar gael ar y wefan am 18 mis o ddyddiad y cyfarfod.

 

Rhannu a Chyfryngau Cymdeithasol

Cliciwch y botwm Rhannu o dan y chwaraeydd gwe-ddarllediad i rannu dolen drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu e-bost.  Anogir gwylwyr hefyd i ddilyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter) ar gyfer y newyddion diweddaraf a nodyn atgoffa o bryd bydd cyfarfodydd yn cael eu gwe-ddarlledu.

 

Tudalennau Cymorth

Os ydych yn cael problemau yn gweld y gwe-ddarllediad, gallwch gael mynediad at y tudalennau cymorth i ddod o hyd i fwy am we-ddarlledu, sut mae’n gweithio, a pha offer bydd angen arnoch i weld y gwe-ddarllediad. Os ydych yn dal i gael problemau, gallwch wneud sylwad gan ddefnyddio’r ddolen Adborth a leolir uwchben y sgrin gwylio gwe-ddarllediad.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd

Ebost: pwyllgor@caerffili.gov.uk

Tanysgrifio 

Tanysgrifiwch i gael gwybod drwy e-bost am weddarllediadau i ddod sydd o bwys i chi